Friday 4 - Sunday 6 October 2024

Mae’r ŵyl yn cynnwys tua 40 o sioeau unigol yn Aberystwyth rhwng 5 a 7 Hydref 2018.

Bydd y sioeau mewn ystafelloedd o wahanol feintiau, o tua 50 – 400 o seddi, a phob un o fewn 10 munud o gerdded i’w gilydd ar lan y môr.

Byddwch ond yn prynu tocynnau i’r sioeau ry’ch chi am eu gweld, gan ganiatáu i chi wylio cymaint neu gyn lleied a’r hoffech dros y penwythnos. Bydd rhai sioeau’n gwerthu pob tocyn, felly os oes sioe ry’ch chi wir am ei gweld, mae’n well prynu tocynnau ymlaen llaw ar y wefan..

Os byddai’n well gennych ddewis ar y penwythnos, bydd swyddfa docynnau yn yr Hen Golwg ar gyfer y sioeau sydd ar ôl.

Mae cyfyngiad oedran i lawer o’r sioeau, felly mae’n werth gwirio cyn prynu tocynnau i unrhyw un dan 18 oed. Mae sioeau penodol i’r teulu, gan gynnwys perffomriadau i blant ifanc. Bydd y rhaglen lawn ar gael o fis Medi 2018.

Fodd bynnag, mae digonedd yn digwydd yn y dre os ydych am ddod ar gyfer yr awyrgylch!

Byddwn yn cyflwyno rhaglen am ddim o gerddoriaeth fyw, cabaret a gweithgareddau i blant yn y Stondin Band dros y penwytnnos.

Mae ein bar clud y Ystafell Seddon yn yr Hen Goleg yn lle prydferth am ddiod yn yr ŵyl. Mae hefyd llawer o dafarnau, clybiau a bwytai lleol i’w darganfod yn y dre.

I rai sy’n dwlu ar yr awyr agored, mae gan Aberystwyth arfordir ardderchog i’w gerdded, llwybrau beicio hyfryd, a gwarchodfeydd natur anhygoel ar garreg y drws.

Edrychwn ymlaen i groeso pawb ym mis Hydref!