Friday 4 - Sunday 6 October 2024

Mae Aberystwyth (neu Aber fel y’i gelwir yn lleol) yn dref Brifysgol brydferth ar arfordir canolbarth Cymru, yn edrych dros Fae Ceredigion.

Mae yno 18,000 o boblogaeth – gyda 7,000 o fyfyrwyr ar ben hynny yn ystod y tymor.

Mae’r siopau cadwyn arferol yn rhannu’r dref â busnesau lleol, annibynnol. Mae gan y dref lawer o dafarndai, siopau coffi a bwytai i chi eu mwynhau dros y penwythnos. Mae hefyd bar dros dro i’r ŵyl yn adeilad hanesyddol yr Hen Goleg, sy’n cynnig golygfa o’r y môr o Ystafell Seddon brydferth.

Mae llawer o’r tafarndai lleol ar agor yn hwyr nos Wener a nos Sadwrn, ac mae dau glwb nos yng nghanol y dref.

Mae’r holl leoliadau yn un rhan o Aber – rhan o lan y môr o’r Hen Goleg i lawr i’r Stondin Band. Mae’r rhain i gyd o fewn 10 munud o gerdded i’w gilydd ar hyd y promenâd hardd.