Friday 4 - Sunday 6 October 2024

Mae hynny’n dibynnu ar ble ry’ch chi, ond trên neu gar yw’r opsiynau callaf siŵr o fod. Os nad y’ch chi’n gwybod ble mae Aberystwyth, edyrchwch yma.

Teithio ar y trên

Gan fod Aberystwyth ar drên uniongyrchol o Birmingham mae’r trên yn ffordd wych o gyrraedd yr ŵyl, gan weld golygfeydd prydferth ar hyd y ffordd. Mae’n daith gerdded o 5 munud o’r orsaf i ganol y dre a hwb yr ŵyl.

Dyma syniad o amser teithio’r trenau:

Newcastle – 6 awr 45 munud

Glasgow – 6 awr 30 munud

Llundain – 4 awr 45 munud

Bryste – 4 awr 45 munud

Caerdydd – 4 awr

Manceinion – 4 awr

Birmingham – 3 awr

Machynlleth – 40 munud

Teithio yn y car

Os ydych am deithio yn y car, dylech ystyried rhannu car. Drwy deithio mewn car llawn, bydd allyriadau carbon ymwelwyr yn debyg i fynd ar y trên, ac mae’n ffordd wych o arbed arian.

Gyda Go Car Share, gallwch weld a yw eich ffrindiau’n dod i’r ŵyl, dod o hyd i bobl tebyg i chi i rannu’r daith, a dod i adnabod pobl cyn cytuno rhannu. Felly os ydych yn gyrru, neu’n chwilio am lifft, cliciwch yma i rannu’r daith!

Dyma syniad o amser teithio drwy gefn gwlad prydferth Cymru o leoliadau amrywiol:

Llundain – 5 awr

Caerdydd – 2 awr 40 munud

Manceinion – 3 awr

Birmingham – 2 awr 45 munud

Machynlleth – 25 munud

Cliciwch yma i gael cyfarwyddiadau ar gynllun teithio’r AA.

Parcio yn Aberystwyth

Mae parcio o amgylch glan y môr am ddim ond yn aml yn rhoi cyfyngiad ar amser (rhwng 1 – 4 awr fel arfer). Mae mannau heb gyfyngiadau os gallwch ddod o hyd iddynt, ond y peth gorau yw defnyddio maes parcio talu ac arddangos.

Mae rhai bach yng nghanol y dre, gan gynnwys Eglwys St Michael (ger yr Hen Goleg) a Maes Parcio Heol y Gogledd (yn agos at lan y môr tuag at Craig-las).

Mae meysydd parcio mwy ger Clwb Pêl-droed Aberystwyth (ar y ffordd allan o Aber gyferbyn â Home Bargains) a Maes Parcio Boulevard St Brieuc (ychydig yn bellach ar y chwith). Mae’r rhain ryw 10-15 munud o gerdded o lan y môr.