Friday 4 - Sunday 6 October 2024

Hoffech chi fod yn rhan o’r teulu sy’n gwneud i bopeth ddigwydd? Mae ein gwirfoddolwyr gwych, hapus a phroffesiynol wrth galon y digwyddiad, ac ry’n ni’n chwilio am bobl i ymuno â’n tîm cyfeillgar!

Mae Gŵyl Gomedi Aberystwyth yn chwilio am unigolion cyffrous a brwdfrydig i wirfoddoli yn y digwyddiad, a dyma’ch cyfle chi i ddod yn rhan o dîm ysbrydoledig a bywiog, ac i ennill profiad gwerthfawr mewn amgylchedd proffesiynol a chefnogol. Mae gennym gyfleoedd gwirfoddoli o stiwardio i’r swyddfa docynnau, o dechnegwyr i hyrwyddo.

Mae gweithio ar ddigwyddiad fel hwn bob amser yn heriol, ond hefyd yn hynod wobrwyol. Felly, os ydych chi’n meddwl bod gennych chi’r sgiliau a’r amser i’w cynnig yr ŵyl, lawrlwythwch a darllenwch y nodiadau a chwblhewch y ffurflen gais ar-lein (yn dod yn fuan).