Beth Ydyw?
Gŵyl gomedi newydd yn Aberystwyth ym mis Hydref gan Little Wander, y tîm sy’n gyfrifol am Ŵyl Gomedi Machynlleth.
Sut mae’n wahanol i Fach?
Ddechrau mis Mai, mae Machynlleth yn canolbwyntio’n bennaf ar sioeau o waith ar y gweill mewn lleoliadau dros dro yn barod am ŵyl Caeredin. Ers 2010, ry’n ni wedi tyfu o 30 sioe yn denu 500 o ymwelwyr i’n digwyddiad diweddaraf yn 2018 gyda 250 o berfformiadau a chynulleidfa o dros 7,000!
5 mis yn ddiweddarach, ar ben arall y broses greadigol, ry’n ni’n mynd i arddangos ein dewis o’r sioeau gorffenedig, yn barod i fynd ar daith mewn lleoliadau perfformio sy’n bodoli eisoes yn Aberystwyth. Byddwn yn dechrau ym mis Hydref gyda thua 40 o sioeau o nos Wener i nos Sul.
A fydd Gŵyl Gomedi Aberystwyth yn cymryd lle Gŵyl Gomedi Machynlleth?
Na fydd wir! Bydd hunaniaeth wahanol iawn i’r ddwy, ar ddau ben y calendr comedi.
Byddwn yn dathlu ein pen-blwydd yn 10 oed ym Mach yn 2019 ac yn edrych ymlaen at ddod â’r digwyddiad i’r dref am flynyddoedd lawer i ddod.
Tra bo 2018 yn dechrau’n llawer llai yn Aber, ry’n ni’n uchelgeisiol iawn ac yn gobeithio y bydd yn ddigwyddiad blynyddol arall o safon yng nghanolbarth Cymru i ffans comedi o bob rhan o’r DU.