Gŵyl Gomedi Aberystwyth wedi’i lansio fel rhan o Flwyddyn y Môr Croeso Cymru
![aber-footer](https://uploads.littlewander.co.uk/app/uploads/sites/3/2017/12/aber-footer-1500x806.png)
26th July 2018
![Gŵyl Gomedi Aberystwyth wedi’i lansio fel rhan o Flwyddyn y Môr Croeso Cymru](https://uploads.littlewander.co.uk/app/uploads/sites/3/2018/07/Visit-Wales-293x165.jpg)
Fel rhan o Flwyddyn y Môr Croeso Cymru 2018, rydym yn lansio gŵyl gomedi newydd sbon yn Aberystwyth!
Cynhelir yr ŵyl mewn lleoliadau o amgylch Glan y Môr, gan ddefnyddio adeiladau eiconig ar hyd y promenâd gogoneddus rhwng 5 a 7 Hydref 2018. Gallwch weld sioeau yn yr Hen Goleg, y Pier Brenhinol, y Stondin Bandiau a llawer mwy.
Ariannwyd y prosiect trwy Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Llywodraeth Cymru sy’n ceisio annog syniadau cynnyrch arloesol newydd gan weithio mewn partneriaeth i gael mwy o effaith a denu mwy o ymwelwyr.