Gŵyl Gomedi Aberystwyth wedi’i lansio fel rhan o Flwyddyn y Môr Croeso Cymru

26th July 2018

Fel rhan o Flwyddyn y Môr Croeso Cymru 2018, rydym yn lansio gŵyl gomedi newydd sbon yn Aberystwyth!
Cynhelir yr ŵyl mewn lleoliadau o amgylch Glan y Môr, gan ddefnyddio adeiladau eiconig ar hyd y promenâd gogoneddus rhwng 5 a 7 Hydref 2018. Gallwch weld sioeau yn yr Hen Goleg, y Pier Brenhinol, y Stondin Bandiau a llawer mwy.
Ariannwyd y prosiect trwy Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Llywodraeth Cymru sy’n ceisio annog syniadau cynnyrch arloesol newydd gan weithio mewn partneriaeth i gael mwy o effaith a denu mwy o ymwelwyr.