Clwb Carco

Gyda llwyth o gomedïwyr Cymraeg – yn cynnwys Esyllt Sears, Dan Thomas, Eleri Morgan, Sarah Breese, a mwy – yn diddanu eich plant am awr gyfan (ond rhaid i chi aros achos does gan y tair yma ddim cymwysterau gofal plant swyddogol). Bydd e’n llanast llwyr. Croeso i oedolion heb blant hefyd, gwerthu tocynnau yw gwerthu tocynnau wedi’r cyfan.
Wedi ei anelu at oedran 3 – 8 ond croeso i bob oed.