Dydd Gwener 4 - Dydd Sul 6 Hydref 2019

Y Coliseum – Amgueddfa Ceredigion

Y Coliseum – Amgueddfa Ceredigion

100 seddi

mynediad i gadeiriau olwyn

Yn gartref i Amgueddfa Ceredigion ers dros 30 mlynedd, agorodd y Coliseum yn Aberystwyth yn wreiddiol fel theatr amrywiaeth ym 1905, cyn dod yn sinema yn gynnar yn y 1930au.

Mae’r gofod theatr gwreiddiol Gradd II yng nghanol yr amgueddfa yn dal i fodoli ac rydym wrth ein bodd i gael y lleoliad 100 sedd hwn fel rhan o’n rhaglen.

Mae ar Heol y Môr, sy’n rhedeg o orsaf drenau Aberystwyth i lan y môr. Fe welwch y Coliseum ar y groesffordd gyda Stryd Portland, gyferbyn â thafarn White Horse, tua munud o gerdded o’r traeth.

Sioeau yn y lleoliad hwn